Mae’r ymgyrch Wrecked Last Night, a lansiwyd ar 16 Ionawr 2012, yn ceisio amlygu peryglon alcohol i yfwyr dan oed, yn arbennig pobl ifanc rhwng 14 a 16 oed. Datblygwyd yr ymgyrch ar y cyd gan Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Chaerffili.

 

Mae’r ymgyrch, sy’n cael ei chynnal mewn sinemâu, ar y radio, ar fyrddau poster, bysiau, y cyfryngau cymdeithasol a phosteri/taflenni yn eich cymuned leol, yn ceisio tynnu sylw at beryglon alcohol ac addysgu pobl ifanc i sicrhau eu bod yn gwneud y dewisiadau iawn mewn bywyd.

 

Gall alcohol ddifetha amser da i bawb a gwneud i chi wneud pethau y byddwch yn eu difaru yn ogystal ag achosi problemau iechyd byrdymor a hirdymor.

 

Helpwch ni i godi ymwybyddiaeth o’r grŵp hwn a’r ymgyrch trwy eu hyrwyddo a rhoi gwybod i’ch ffrindiau.

 

Ewch i’r dudalen ENNILL am gyfle i ennill hyd at £1000 o dalebau Apple® trwy gwblhau cwis byr am alcohol.